Cartref
Croeso
Mae Ar ôl Tri’n gôr meibion o tua 25 o aelodau sy’n canu mewn cyngherddau lleol ac yn cystadlu mewn eisteddfodau. Ry’n ni’n ymarfer nos Sul fel arfer, yng Nghapel Mair Aberteifi, ac mae croeso i aelodau newydd.
Ffurfiwyd y côr tua 1985 gan filfeddyg lleol, sef y diweddar Wyn Lewis. Bu’n arwain y côr am dros 30 o flynyddoedd, nes i salwch ei orfodi i ildio’r awenau yn 2016. Yn ystod y cyfnod hwnnw, cafodd Wyn lwyddiant mawr gyda’r côr, gan ennill yn yr Eisteddfod Genedlaethol droeon yn y categori dan 40 o leisiau. Bu’r côr ar daith i Iwerddon sawl tro ac unwaith i Lydaw, ond côr ei filltir sgwâr yw Ar ôl Tri, fel Wyn ei hun. Bu’r côr yn canu pob math o ganeuon, gan gynnwys y repertoire corau meibion traddodiadol fel Y Merthyron (Martyrs of the Arena), Cymrodyr y Gad (Comrades in Arms) yn ogystal â’r emynau cyfarwydd a darnau cyfoes. Mae cystadlu yng ngwaed y bois, ond y diléit pennaf yw’r canu ei hun… a fu côr tebyg am ganu ar ôl cyngerdd neu eisteddfod? Byddai’r sesiynau canu mewn tai tafarn yn para’n aml tan yr oriau mân, a’r codwr canu’n ddi-ffael oedd Wyn y Fet. Ar ôl iddo fynd yn sâl yn 2016, ymunodd â’r baritoniaid gan fwynhau’r gân gyda’r un arddeliad â chynt, hyd nes i’r un salwch fynd ag e y llynedd. Tristwch mawr i’r côr fu ei golli ar ddiwedd Rhagfyr 2019, ac ergyd enbyd i’w fro a’i deulu.
Cafwyd gwasanaeth coffa i’w gofio yn y capel ym Mlaenannerch lle bu’n flaenor. Dyma’r englyn coffa iddo gan Ceri Wyn Jones, a draddododd y deyrnged yn ystod y gwasanaeth:
A’r feirws coron wedi rhoi taw ar bob côr, eisteddfod a chyngerdd yn ystod 2020, daeth rhai o aelodau’r côr a chyfeillion Ar ôl Tri ynghyd i gydganu ar-lein. Bydd cyngerdd i ddathlu bywyd Wyn yn hwyrach eleni gobeithio, ond yn y cyfamser, dyma Myfanwy, er cof am Wyn a chan edrych ymlaen at ailafael yn y gân.
Emyr